Cyfarfod y Tîm


Cartref > Amdanom ni > Cyfarfod y Tîm

Rydym yn dîm ymroddedig sy'n ymdrechu i sicrhau llwyddiant i'n cleientiaid o ran eu holl anghenion cyfrifeg. Mae ein tîm yn un clós iawn sy’n sicrhau bod cefnogaeth unedig yn cael ei darparu i chi pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Am fod gennym arbenigedd wrth ymdrin â phob agwedd ar wasanaethau cyfrifyddiaeth, trethiant a chynghori busnes, rydym mewn sefyllfa dda i gymryd golwg gyfannol ar gynllunio ar gyfer y dyfodol yn ogystal â delio â materion penodol.

Gwyn Thomas y Rheolwr Gyfarwyddwr

Gwyn Thomas 

Rheolwr Gyfarwyddwr


Addysgwyd Gwyn ym Mhrifysgol Lerpwl lle bu’n astudio Bioleg y Môr cyn iddo hyfforddi a chymhwyso fel cyfrifydd siartredig gydag Ernst and Young. Ar ôl ychydig flynyddoedd yn gweithio yn adran dreth PKF yn Lerpwl sefydlodd Gwyn y cwmni ym 1989.

Ar ôl sefydlu ei fusnes ei hun yn weddol ifanc, gall Gwyn ddeall ofnau, problemau ac uchelgeisiau entrepreneuriaid o bob oed. Mae'n ymfalchïo mewn darparu cyngor cadarn ar fusnes a threth i gleientiaid.

Pan nad yw yn y gwaith mae Gwyn yn arddwr, yn deithiwr ac yn ddilynwr pêl-droed brwd ac mae ganddo docyn tymor yn Anfield. Mae Gwyn yn briod â Lesley, sydd hefyd yn gyfrifydd siartredig ac mae ganddyn nhw ddau o blant sydd bellach yn oedolion. Mae un yn gyfreithiwr corfforaethol a'r llall, eto fyth, yn gyfrifydd siartredig arall.

Shon Evans y Cyfrifydd

Shon Evans

Cyfrifydd


Cymhwysodd Shon fel cyfrifydd ardystiedig siartredig yn 2016 ar ôl ymuno â'r cwmni yn 2007. Ei ddiddordeb pennaf yw datblygu busnes a phob agwedd ar drethiant ac mae'n ymroi i roi'r gwasanaeth gorau posibl i'w gleientiaid.

Mae Shon yn gyn golffiwr tywydd teg ac mae'n mwynhau treulio amser gyda'i bartner Ola a'i ferch Sofia. Bydd y clybiau golff yn cael eu hatgyfodi rhyw ddiwrnod heulog maes o law pan fydd Sofia wedi tyfu i fyny!

Arwel Hughes y Cyfrifydd

Arwel Hughes

Cyfrifydd


Magwyd Arwel ym Mhwllheli ac addysgwyd ef yn ysgolion cynradd ac uwchradd y dref. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon yn enwedig rygbi a phêl-droed, ar ôl chwarae'r ddwy gamp i'r dref pan oedd o’n iau!

Mae ganddo’n agosat 30 mlynedd o brofiad yn y proffesiwn cyfrifyddiaeth. Ymunodd â'r cwmni yn 2001 a chymhwysodd fel cyfrifydd siartredig.

Mae'n briod ag Annwen sy'n bennaeth mewn ysgol gynradd leol ac mae ganddo ddwy ferch, Mari a Lowri, sydd ar hyn o bryd yn astudio fferylliaeth ac optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Manon Hughes y Cyfrifydd

Manon Hughes

Cyfrifydd


Cymhwysodd Manon fel cyfrifydd ardystiedig siartredig yn 2016 ar ôl ymuno â'r cwmni yn 2007. Mae’n arbenigo mewn cyfrifon cwmniau cyfyngedig, ffurflenni treth personol a'r diwydiant adeiladu.

Mae Manon yn brofiadol mewn cadw llyfrau electronig fel Sage a QuickBooks ac mae hefyd yn gyfrifol am ein hadran gyflogres.