Ffurfio Cwmni
Cartref > Gwasanaethau > Ffurfio Cwmni
Ydych chi eisiau cymryd y risg o ffurfio eich cwmni eich hun?
Mae mwy i'w ystyried na phrynu cwmni parod rhad ar y rhyngrwyd yn unig!
Gallwn eich cynorthwyo i ffurfio...
- Cwmni parod oddi ar y silff
- Cwmni wedi'i deilwra
- Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig
- Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (PLC)
- Cwmnïau alltraeth (offshore) mewn awdurdodaethau treth isel
Ar gyfer ceisiadau brys gallwn hefyd drefnu ffurfiannau ar yr un diwrnod.
I wirio argaeledd enw Cwmni Cyfyngedig, gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau.Teipiwch yr enw rydych chi ei eisiau, dewiswch "Chwilio Argaeledd Enw Cwmni" a gweld a yw'n ymddangos yn y rhestr.
Gall ein pecynnau Ffurfio Cwmni gynnwys:
- Cyngor ar fanteision ac anfanteision corffori yn eich sefyllfa chi
- Penodi cyfarwyddwyr
- Penodi ysgrifennydd cwmni
- Dyrannu cyfranddaliadau tanysgrifwyr
- Gwasanaethau swyddfa gofrestredig
- Cwblhau'r holl gofnodion a’r penderfyniadau angenrheidiol
- Cymorth i agor cyfrif banc
- Adolygiad treth o ran ffurfio cwmni – gall ffurfio'r cwmni eich hun a gwneud hyn yn anghywir fod yn gostus iawn!
- Cofrestru TAW
- Cofrestru cwmni ar gyfer Treth Gorfforaeth
- Sefydlu cynllun Talu wrth Ennill (TWE) y Cwmni
- Cyngor ar sut i gadw cyfrifon
- Cynlluniau busnes
- Cymorth i godi cyllid
Cysylltwch â Ni
Cysylltwch â ni os ydych angen cyngor pellach neu os oes gennych unrhyw gwestiwn am ein gwasanaethau, neu os ydych am gael ymgynghoriad rhad ac am ddim a dyfynbris sefydlog.