Treth Enillion Cyfalaf


Cartref > Gwasanaethau > Treth Enillion Cyfalaf

Beth yw Treth ar Enillion Cyfalaf

Treth ar Enillion Cyfalaf yw’r dreth sy’n ddyledus ar ased pan gaiff ei werthu os yw wedi cynyddu mewn gwerth.

Mae eithriadau yn bodoli – a gallwn eich cynghori ar yr hyn a allai fod ar gael.

Ar y cyfan, bydd y person cyffredin yn destun Treth ar Enillion Cyfalaf pan fydd yn gwerthu eiddo nad yw’n brif breswylfa iddo, neu wrth drosglwyddo arian i anwyliaid mewn ymddiriedolaeth. Mae busnesau hefyd yn destun Treth ar Enillion Cyfalaf.

Mae eithriad di-dreth yn berthnasol.

Gall cyfradd Treth ar Enillion Cyfalaf fod ychydig yn gymhleth hefyd. Mae gwahanol gyfraddau ar gyfer trethdalwyr uwch, a gwahanol gyfraddau hefyd ar gyfer eiddo neu enillion nad ydynt yn ymwneud ag eiddo, oll yn amrywio o 10% i 28%

Mae angen rhoi gwybod am unrhyw eiddo preswyl sy’n destun Treth ar Enillion Cyfalaf a thalu’r dreth o fewn 60 diwrnod i’r gwerthiant. Ceisiwch gyngor ymlaen llaw bob amser.

Cysylltwch â Ni

Cysylltwch â ni os ydych angen cyngor pellach neu os oes gennych unrhyw gwestiwn am ein gwasanaethau, neu os ydych am gael ymgynghoriad rhad ac am ddim a dyfynbris sefydlog.

Cysylltwch â Ni