Amdanom ni


Cartref > Amdanom ni

Rydym yn gwmni o Gyfrifwyr Siartredig wedi’n lleoli ym Mhwllheli ar Benrhyn Llŷn.

Rydym yn gweithredu ar ran amrywiaeth o fusnesau yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth prydlon ac effeithlon gyda chyffyrddiad personol sy’n ein galluogi i gyfrannu’n rhagweithiol at fusnesau ein cleientiaid. Efallai nad oes gennym yr holl arbenigedd y byddech chi ei angen yma yn y swyddfa ym Mhwllheli ond y mae gennym fynediad at rwydwaith helaeth o ymgynghorwyr y gallwn alw ar eu gwasanaeth er mwyn sicrhau’r cyngor treth a chyfreithiol gorau y bydd ei angen arnoch chi.

Rydym yn awyddus i feithrin perthnas fusnes barhaol gyda’n cleientiaid. Ein hathroniaeth yw codi ffi deg am wasanaeth gwell, wedi’i seilio ar gyngor. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrifon a chydymffurfiaeth treth llawn gyda’r fantais ychwanegol o brofiad o dros 30 mlynedd yn y maes o ddarparu cyngor treth a busnes cyffredinol.

EIN HATHRONIAETH

EIN HATHRONIAETH BOB AMSER YW GWNEUD EIN GORAU GLAS I…

  • Darparu gwasanaeth cyfeillgar, cwrtais ac effeithlon
  • Rhagori ar eich disgwyliadau bob amser
  • Gwrando ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud
  • Cyfathrebu â chi yn gyflym ac yn llawn
  • Bod yn onest, yn eirwir ac yn agored gyda chi bob amser
  • Anelu at i chi dalu’r lleiafswm o dreth
  • Rhoi cyngor busnes rhagweithiol lle bynnag y bo modd