Polisi Preifatrwydd
Cartref > Polisi Preifatrwydd
Mae ein polisi preifatrwydd yn syml …
- Nid ydym yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch gydag unrhyw sefydliadau nac unigolion eraill.
- Rydym yn cadw'r holl wybodaeth a roddwch i ni yn gwbl gyfrinachol, waeth sut na pham y byddwch yn ei darparu.
- Dim ond y gweithwyr a'r contractwyr hynny yr ydym yn eu cyflogi'n benodol gyda dyletswyddau busnes perthnasol all gael mynediad at wybodaeth bersonol, a dim ond i gyflawni eu dyletswyddau. Maent wedi'u gwahardd yn llwyr rhag unrhyw ddefnydd arall.
- Ni ddarperir unrhyw wybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti, ac eithrio mewn digwyddiad anarferol lle mae'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith
- Trwy ddefnyddio unrhyw un o'r ffurflenni ar ein gwefan, rydych yn cytuno'n ymhlyg i gael eich rhwymo gan ein polisi preifatrwydd a’n hymwadiad cyfreithiol.
- Trwy ddefnyddio unrhyw un o'r ffurflenni ar ein gwefan, rydych yn cytuno i'ch cyfeiriad e-bost gael ei ychwanegu at ein rhestr bostio.
- Mae'n bosibl y byddwch yn derbyn gohebiaeth achlysurol gennym ni gyda gwybodaeth am wasanaethau neu newyddion. Os nad ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth o'r fath, rhowch wybod drwy gysylltu â ni. Bydd pob e-bost a anfonir yn rhoi'r dewis i chi ddad-danysgrifio.
- Rydym yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu unrhyw ddata personol y gall ein defnyddwyr ei fewnbynnu drwy'r wefan hon. Fodd bynnag, ni allwn fod yn gyfrifol am golli neu gamddefnyddio data personol a gaiff ei ryng-gipio (intercept) neu ei gyrchu fel arall gan bobl heb awdurdod. Felly rydym yn eithrio pob atebolrwydd am hyn.
- Rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â chyfreithiau diogelu data’r UE a’r DU i’r graddau y maent yn berthnasol i’n defnydd o wybodaeth bersonol.
- Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopi o'ch data personol ac mae gennych yr hawl i ddiwygio neu ddileu'r data.
Eich hawl i wybod
- Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer cynrychiolwr ein cwmni ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’.
Lle bo’n berthnasol:
- Trwy lenwi'r ffurflen danysgrifio ar gyfer y cylchlythyr ar ein gwefan, rydych yn caniatáu i ni ddefnyddio eich data personol ar gyfer gohebiaeth achlysurol.
- Mae'n bosibl y byddwch yn derbyn gohebiaeth achlysurol gennym ni gyda gwybodaeth am wasanaethau neu newyddion. Os nad ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth o'r fath, rhowch wybod drwy gysylltu â ni. Bydd pob e-bost a anfonwn atoch yn rhoi'r dewis i chi ddad-danysgrifio.
- Byddwn yn cadw eich data hyd nes y byddwch yn ein cyfarwyddo i'w ddileu neu'n penderfynu dad-danysgrifio o'n cylchlythyr.
- Mae'n bosibl y bydd datblygwyr gwe a chontractwyr eraill sy’n ein cynorthwyo i ddarparu’r cylchlythyr yn cael mynediad at eich data personol.
- Mae'n bosibl y bydd ein tîm ni, sydd wedi'i leoli yn India, yn cyrchu eich data y tu allan i'r UE. Mae’r mesurau diogelu sydd gennym ar waith yn gontract rhyngom ni a’r cwmni derbyn sy’n cynnwys cymalau diogelu data enghreifftiol yr UE.
- Bydd eich data personol yn cael ei storio hyd nes y byddwch yn dweud wrthym yn wahanol.
- Os hoffech arfer unrhyw un o'ch hawliau GDPR (yr hawl i gyrchu, cywiro, dileu, cyfyngu ar brosesu a hawl i gludadwyedd data) cysylltwch â ni dros e-bost neu drwy’r ffurflen gysylltu sydd i'w gweld ar y dudalen Cysylltu â ni.
- Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i'r awdurdod goruchwylio.
- Nid yw'n rhwymol yn gytundebol eich bod yn darparu eich data personol i dderbyn cylchlythyr gennym.
- Nid yw data personol a ddarperir trwy'r ffurflen danysgrifio ar gyfer ein cylchlythyr yn cael ei broffilio ac nid yw penderfyniadau awtomataidd yn cael eu cymhwyso
- Ni fyddwn yn defnyddio data personol a ddarperir drwy'r ffurflen gofrestru at unrhyw ddiben ar wahân i’r hyn a ddisgrifir uchod.
Cwcis ac olrhain
Er mwyn gwella'r profiad cyffredinol o ymweld â'n gwefan, rydym yn defnyddio log sy'n seiliedig ar weinydd i gasglu gwybodaeth ddienw am ymwelwyr â’n gwefan. Dim ond i gynhyrchu siartiau ystadegol y defnyddir y data hwn ac ni chaiff ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall.
Defnydd o gwcis ar ein gwefan
Trwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio cwcis.
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur pan fyddwch chi’n ymweld â gwefan. Fe'u defnyddir yn bennaf fel ffordd o wella swyddogaethau'r wefan neu i ddarparu data ystadegol mwy datblygedig.
Google Analytics
Mae ein gwefan yn defnyddio Google Analytics sy'n dibynnu ar gwcis i gynhyrchu siartiau ymwelwyr mwy datblygedig ac adroddiadau cloddio data. Yn yr un modd â'n logiau sy'n seiliedig ar weinyddion, mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth ddienw na fydd yn cael ei defnyddio i adnabod ymwelwyr â’n gwefan.
System mewngofnodi – LLE BO’N BERTHNASOL:
Mae ein gwefan yn cynnwys ardal(oedd) a ddiogelir gan gyfrinair sy'n gofyn i ddefnyddiwr fewngofnodi. Mae'r system mewngofnodi hon yn cynnig cofio cyfeiriad e-bost y defnyddiwr os yw'r blwch perthnasol wedi'i dicio. Bydd ticio’r blwch yn creu cwci a fydd yn dod i ben yn awtomatig ar ôl 1 flwyddyn neu os na chaiff y blwch ei dicio ar ymweliad dilynol.
Cwcis Rheoli
Dylai eich porwr gwe (y feddalwedd a ddefnyddiwch i gael mynediad i'n gwefan) ganiatáu i chi reoli'r cwcis y mae'n eu storio ar eich cyfrifiadur. Cyfeiriwch at wefan y cyflenwr perthnasol i gael gwybod mwy.
Os ydych chi’n teimlo nad yw'r wefan hon yn dilyn ei pholisi gwybodaeth datganedig, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, e-bost neu trwy lythyr.
Newidiadau i’r polisi hwn
Byddwn yn postio unrhyw newidiadau i’r polisi hwn ar ein gwefan. Bydd y newidiadau hynny ya’n berthnasol pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd yn y dyfodol.