Cyflogres
Cartref > Gwasanaethau > Cyflogres
Ein Gwasanaethau Cyflogres
Roedd rhedeg eich busnes eich hun yn mynd yn iawn tan i chi benodi eich cyflogai cyntaf a dod yn gasglwr treth di-dâl.
A dyma pryd y daethoch chi i wybod am wir ystyr biwrocratiaeth.
Gadewch i ni gymryd y straen a’ch rhyddau i fwrw ymlaen â rhedeg a thyfu'r busnes. Mae'r gyflogres yn gymhleth. Mae'n rhaid ei gwneud ar amser a chi fel cyflogwr sy'n gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau.
Rydym yn rhedeg cyflogresi ar amser a gallwn ddarparu gwasanaeth wedi'i deilwra ar gyfer eich busnes gan gynnwys...
- Slipiau cyflog gweithwyr
- Crynodebau misol
- Adroddiadau adrannol
- Delio â staff newydd a rhai sy’n gadael
- Darparu dadansoddiad o gostau staff
- Ffurflenni TWE Gwybodaeth Amser Real (RTI) ar gyfer y Refeniw
- Cymorth gyda sefydlu taliadau awtomatig i'ch cyflogeion
- Llenwi ffurflenni CIS ar eich rhan
Ni fydd byth gofyn i chi boeni am gyfrifo tâl salwch statudol neu dâl mamolaeth a delio â didyniadau benthyciadau myfyrwyr byth eto!
Ac ar ddiwedd y flwyddyn...
- P60s cryno cyflogai
- Ffurflenni buddion a threuliau P11D a P9D
A'r cyngor cynllunio treth cysylltiedig...
Y tu hwnt i'r gwasanaeth cydymffurfio â chyflogres, rydym yn cynnig cyngor cynhwysfawr ar yr holl faterion treth cyflogaeth gan gynnwys...
- Strategaethau tâl cydnabyddiaeth treth-effeithlon
- Cynllunio ar gyfer ymddeoliad
- Taliadau terfynu
- Taliadau cymell
- Strategaethau ceir a faniau cwmni
- Cynllunio buddion
Cysylltwch â Ni
Cysylltwch â ni os ydych angen cyngor pellach neu os oes gennych unrhyw gwestiwn am ein gwasanaethau, neu os ydych am gael ymgynghoriad rhad ac am ddim a dyfynbris sefydlog.